Y Cyfarfod Llawn

 

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mawrth, 9 Gorffennaf 2013

 

Amser y cyfarfod:
13:30

 

 

 

 

Agenda

(145)v6

 

<AI1>

1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud)

Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.

 

Gweld y cwestiynau

</AI1>

<AI2>

Cwestiwn Brys

Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad yn dilyn cyhoeddi adroddiad Jillings?

</AI2>

<AI3>

2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)

Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

</AI3>

<AI4>

3 Datganiad gan y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth: Cymunedau Mwy Diogel i Bawb - Y wybodaeth ddiweddaraf am Bennod 7 o'r Rhaglen Lywodraethu - i’w gyflwyno fel Datganiad Ysgrifenedig 

</AI4>

<AI5>

4 Datganiad gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth: Blaenoriaethau Trafnidiaeth - i’w gyflwyno fel Datganiad Ysgrifenedig 

</AI5>

<AI6>

5 Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol - Y Wybodaeth Ddiweddaraf am yr Ymateb i'r Adolygiad Strategol o Wasanaethau Ambiwlans Cymru (45 munud)

</AI6>

<AI7>

6 Datganiad gan y Gweinidog Cyllid: Cynnydd o ran Datblygiad Rhaglenni Cyllid Strwythurol Ewropeaidd 2014-2020 ac adroddiad Llywodraeth Cymru ar yr ymgynghoriad “Cymru a'r UE: Partneriaeth ar gyfer Swyddi a Thwf” (30 munud)

</AI7>

<AI8>

7 Datganiad gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd: Diwygio'r Polisi Amaethyddol Cyffredin (30 munud)

</AI8>

<AI9>

8 Cynnig i gymeradwyo egwyddorion cyffredinol y Bil Sector Amaethyddol (Cymru) (60 munud) 

NDM5289 Alun Davies (Blaenau Gwent)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.102:

Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol y Bil Sector Amaethyddol (Cymru).

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu wrth fethiant Llywodraeth Cymru i ddilyn y weithdrefn Bil Cyhoeddus lawn ar gyfer y Bil o ystyried y cyfle a gafodd i wneud hynny, a fyddai wedi cynnwys;

a) pwyllgor yn craffu’n fanwl ar y Bil; a

b) cyfle i gael adroddiad pwyllgor manwl am y Bil.

Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu bod y Bil Brys wedi’i ddwyn gerbron y Cynulliad cyn bod ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ei hun wedi cau, a chyn bod yr ymatebion i'r ymgynghoriad ar gael i'w hystyried.

Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu y byddai’r Bil yn caniatáu i Weinidogion Cymru bennu isafswm cyflog heb gyfeirio’r mater at banel annibynnol o gwbl.

Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi y byddai panel cynghori a fyddai’n cael ei sefydlu o dan y Bil o dan ddisgresiwn Gweinidogion Cymru, a fyddai'n rheoli:

a) cyfansoddiad a thrafodion y panel;

b) penodi aelodau i’r panel;

c) pwerau cyffredinol y panel, a

d) ychwanegu, dileu neu ddiwygio swyddogaethau’r panel.

Gwelliant 5 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi:

a) bod dibenion allweddol y Bil yn cynnwys swyddogaethau pennu cyflogau, a

b) nad yw cyfraith cyflogaeth wedi’i rhestru o dan Atodlen 7 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

Dogfennau Ategol

Bil Sector Amaethyddol (Cymru)
Memorandwm Esboniadol
Datganiad y Llywydd am Gymhwysedd Deddfwriaethol: Bil Sector Amaethyddiaeth (Cymru)
Crynodeb o faterion sy’n ymwneud â chymhwysedd deddfwriaethol
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol at y Gweinodog Cyfoeth Naturiol a Bwyd (9 Gorffennaf 2013) – Ar gael yn Saesneg
Gwasanaeth Ymchwil Crynodeb o Fil: Bil Sector Amaethyddol (Cymru)

</AI9>

<AI10>

9 Cynnig i gymeradwyo penderfyniad ariannol y Bil Sector Amaethyddol (Cymru) (5 munud) 

NDM5290 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Bil Sector Amaethyddol (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69 sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.

</AI10>

<AI11>

Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i drafod y ddwy eitem ganlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân (15 munud)

</AI11>

<AI12>

10 Gorchymyn Deddf Tai ac Adfywio 2008 (Diwygiadau Canlyniadol i Ddeddf Cartrefi Symudol 1983 (Cymru) 2013   

NDM5287 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Gorchymyn Deddf Tai ac Adfywio 2008 (Diwygiadau Canlyniadol i Ddeddf Cartrefi Symudol 1983) (Cymru) 2013 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Mehefin 2013.

Dogfennau Ategol
Gorchymyn Deddf Tai ac Adfywio 2008 (Diwygiadau Canlyniadol i Ddeddf Cartrefi Symudol 1983) (Cymru) 2013
Memorandwm Esboniadol


</AI12>

<AI13>

11 Gorchymyn Deddf Cartrefi Symudol 1983 (Diwygiad i Atodlen 1 a Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2013   

NDM5286 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Gorchymyn Deddf Cartrefi Symudol 1983 (Diwygio Atodlen 1 a Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2013 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Mehefin 2013.

Dogfennau Ategol
Gorchymyn Deddf Cartrefi Symudol 1983 (Diwygio Atodlen 1 a Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2013
Memorandwm Esboniadol


</AI13>

<AI14>

12 Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Gofal - gohiriwyd (15 munud) 

NDM5247 Gwenda Thomas (Castell-nedd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried darpariaethau’r Bil Gofal, sy’n ymwneud â threfniadau cyfatebol y DU ar gyfer lleoli oedolion ar draws ffiniau, trefniadau i sicrhau parhad yn y gofal i oedolion yn achos methiant gan y darparwr ac i’w gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gydweithredu â’r Awdurdod Ymchwil Iechyd, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Dogfennau Ategol
Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Mai 2013 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i).

I weld copi o’r Bil ewch i:
Bil Gofal 2013 (Saesneg yn unig)

Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Adroddiad ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Gofal

</AI14>

<AI15>

13 Dadl: Y GIG yng Nghymru - Dysgu o Ymchwiliad Francis (60 munud) 

NDM5288 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi’r camau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd mewn ymateb i Adroddiad Francis.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi bod data ar farwolaethau wedi cyfrannu at y penderfyniad i gomisiynu Adroddiad Francis, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw gamau a gymerir i ddatrys pryderon a gododd yn sgîl data marwolaethau GIG Cymru a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2013.

Gellir gweld data marwolaethau GIG Cymru drwy fynd i:

http://cymru.gov.uk/topics/health/publications/health/guidance/mortality/?skip=1&lang=cy

Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi gyda phryder bod y mynegai marwolaethau wedi'i addasu yn ôl risg yn uwch na’r cyfartaledd mewn 11 o'r 17 o ysbytai cyffredinol dosbarth yng Nghymru, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynorthwyo Byrddau Iechyd Lleol i fynd i'r afael â’r ôl-groniad o ran codio clinigol ac i sefydlu dull o ymchwilio pan fydd ysbyty neu Fwrdd Iechyd Lleol yn croesi trothwy penodol ar gyfer y mynegai marwolaethau wedi'i addasu yn ôl risg yn gyson dros gyfnod.

Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi gyda phryder bod Adroddiad Francis yn nodi lefelau staffio isel hirdymor fel un rheswm a gyfrannodd at driniaeth wael, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried potensial deddfwriaeth i osod lefel staffio sylfaenol ar gyfer nyrsys yng Nghymru.

Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn croesawu’r ymrwymiad i gyhoeddi polisi newydd ar chwythu'r chwiban cyn diwedd mis Gorffennaf 2013, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu ei llinell gymorth ddi-dâl ei hun ar gyfer chwythu'r chwiban er mwyn ategu'r polisi hwn a galluogi holl staff a chleifion y GIG i roi gwybod am eu pryderon yn ddienw.

Dogfennau Ategol
Mae modd gweld Adroddiad Francis drwy’r ddolen ganlynol: http://www.midstaffspublicinquiry.com/report

E-bostiwyd ymateb Llywodraeth Cymru i Adroddiad Francis at Aelodau’r Cynulliad ar 2 Gorffennaf.

</AI15>

<AI16>

Cyfnod Pleidleisio

</AI16>

<TRAILER_SECTION>

 

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, Dydd Mercher, 10 Gorffennaf 2013

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

 

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>